Mae gwneud Ph.D. yn gallu bod yn brofiad anodd, llethol, unig ar adegau…

University academic staff reflect on their experiences as PhD students.

Staff academaidd y Brifysgol yn myfyrio ar eu profiadau fel myfyrwyr PhD.

Yn Togetherall rydyn ni’n gwybod pa mor bwerus y mae rhannu profiadau a chefnogaeth gan gyfoedion yn gallu bod, felly gofynnwyd i staff academaidd fyfyrio ar eu taith Ph.D. eu hunain a’r hyn y bydden nhw wedi hoffi ei wybod  bryd hynny. Darllenwch y cyngor gan eraill sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â chi. 

“Oes gwerth i’r hyn yr ydw i’n ei wneud yma?”

Roedd un aelod o staff yn gofyn hyn yn aml drwy gydol ei daith PhD. Pan fydd eich ymchwil yn teimlo fel nad yw’n mynd i’r cyfeiriad iawn, mae’n hawdd amau eich hun. 

Os ydych chi erioed wedi teimlo diffyg cyfeiriad neu ar goll, rhowch gynnig ar rai o’r cynghorion isod gan gyd-academyddion. 

  • Pan nad oes llawer o gymhelliant, atgoffwch eich hun pam rydych chi’n gwneud y gwaith hwn. Bob dydd byddwch gam yn nes at eich nod.
  • Gwnewch bethau defnyddiol, sy’n eich cadw’n brysur, sydd â rhyw fath o gysylltiad â’ch PhD, fel gwirfoddoli a gwaith sy’n gysylltiedig â thestun eich ymchwil. Bydd profiad o’r ‘byd go iawn’ yn helpu i’ch cynnal ac yn fodd i chi fwynhau eich gwaith.
  • Bob dydd, ysgrifennwch 5 peth (dim ots pa mor fach ydyn nhw) rydych chi wedi’u cyflawni. Canolbwyntiwch ar y rheini, yn hytrach nag ar y rhestr o bethau i’w gwneud. 

Dydi eich PhD “ddim yn diffinio pwy ydych chi.” 

Er efallai nad yw’n teimlo felly ar adegau, nid yw eich gwaith yn eich diffinio. Mae’n un agwedd o’ch hunaniaeth, ond mae cymaint o agweddau a haenau i bwy ydych chi fel person a’r nodweddion unigryw rydych chi’n eu cynnig i’r byd. 

Dywedodd un athro fod yn rhaid iddo atgoffa ei hun yn gyson, “nad eich PhD yw eich bywyd.” Mae’n rhan o bwy ydych chi, ond nid pwy ydych chi. 

Gall fod yn anodd iawn cael persbectif, ond os gallwn ddod o hyd i weithgareddau diddorol sy’n caniatáu i ni deimlo’n lled gysurus, gallwn deimlo’n well ac yn fwy sefydlog.

Os ydych chi’n teimlo bod angen persbectif newydd arnoch, rhowch gynnig ar rai o’r cynghorion hyn gan athrawon.  

  • Cofiwch ei bod yn bosibl cael bywyd da y tu allan i’r byd academaidd. Nid yw eich hunanwerth yn dibynnu ar gael eich gwerthfawrogi gan y grŵp hwn o bobl am wneud y pethau hyn.
  • Mynnwch fywyd y tu allan i’r PhD, a’r tu allan i’r byd academaidd. Mae’r byd academaidd yn rhy ansicr i chi neilltuo eich holl egni iddo. Mae angen pethau eraill i droi atynt pan fydd eich papur yn cael ei wrthod, neu pan fydd cynnydd yn arafach nag yr hoffech chi.
  • Nid yw llwyddiant yn y byd academaidd yn fesur o deilyngdod. Mae bod yn dda yn helpu, ond nid yw’n gwarantu unrhyw beth. Rhowch y gorau i fesur eich hun ar sail llwyddiant eich gyrfa.

Mae’r byd academaidd yn ‘enwog’ am ‘beidio â gosod ffiniau rhwng gwaith a gorffwys.’

Gall fod yn anodd iawn rhoi blaenoriaeth i chi eich hun yn hytrach na’ch gwaith academaidd. Efallai y bydd eich taith yn llawn cyfleoedd unigryw, pwysau, a chyffro, sy’n gallu ei gwneud hi’n anodd cefnu ar eich gwaith. 

Teimlo bod angen help arnoch i roi blaenoriaeth i beidio â gweithio? Edrychwch isod ar yr hyn oedd gan yr academyddion i’w ddweud am bwysigrwydd gorffwys a sut beth yw hynny. 

  • Rhowch flaenoriaeth i orffwyso gan y bydd hynny galluogi eich ymennydd i weithio’n well, eich gwneud chi’n fwy cynhyrchiol, ac yn rhoi persbectif i chi. 
  • Dylech ddisgwyl ambell ddiwrnod gwael lle nad ydych yn cyflawni llawer ond peidiwch â phydru ymlaen ar ddiwrnod gwael – yn hytrach cymerwch seibiant.
  • Ewch adref, treuliwch amser yng nghwmni ffrindiau, ffoniwch eich anwyliaid, a threfnwch wyliau!
  • Gofalwch am eich lles eich hun trwy fwyta bwyd maethlon, gwneud ymarfer corff a gorffwys. 

Register today

“Pheidiwch â cheisio datrys eich problemau ar eich pen eich hun.”

Gall ennill eich PhD fod yn brofiad unig ar adegau, sy’n gallu cyfrannu at hunan amheuaeth a gorweithio. Dywedodd yr Athrawon y bydden nhw wedi hoffi pe baen nhw wedi chwerthin mwy a rhannu eu rhwystredigaethau gyda ffrindiau i’w helpu drwy’r gwaith. 

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi wedi bod yn ynysu eich hun, edrychwch ar y cynghorion a’r esiamplau hyn gan academyddion sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â chi’n barod: 

  • Dewch o hyd i ffrindiau a phobl y gallwch rannu eich rhwystredigaethau â nhw. Gwneud eich PhD ar eich pen eich hun yw’r peth gwaethaf  y gallech ei wneud.  
  • Dewch o hyd i’ch criw o gyd ôl-raddedigion, ac os yw pethau’n mynd yn drech na chi, dewch at ei gilydd a neilltuwch amser i fwrw eich bol!
  • Estynnwch allan i eraill. Efallai bod eich angen chi arnyn nhw. Efallai  bod eu hangen nhw arnoch chi. 

“Mae’n iawn i chi deimlo ar goll ac yn unig.”

Weithiau mae’n gallu teimlo bod gan bawb arall reolaeth ar eu bywyd a bod pethau’n mynd yn hwylus, ond anaml iawn mae hyn yn wir. 

Os cymerwch chi’r amser i rannu gydag eraill, fe welwch fod pawb yn cael trafferth gyda rhywbeth. Efallai bod eu trafferthion nhw’n wahanol i’ch rhai chi, ond mae gan bawb heriau. 

Os byddwch chi’n cofio un darn o gyngor gan Athro wrth iddo fyfyrio ar eu taith Ph.D. cofiwch hwn:

“Pan rydych chi’n gwneud eich ymchwil, mae’n iawn i chi deimlo ar goll ac yn unig. Dyna oedd profiad bob un ohonom, ond dim ond ar ôl i ni raddio y byddwn ni’n dweud wrthych chi. Oherwydd tra oeddem yn gwneud y Ph.D., roedd gennym gywilydd cyfaddef hynny. Rwy’n sylweddoli nawr y dylwn i fod wedi dweud ac nad oedd cywilydd mewn teimlo felly. Roedd yn normal ac roedd help ar gael. Dim ond gofyn oedd angen ei wneud.”

Ymunwch â Togetherall heddiw

Mae gennych fynediad AM DDIM i’r gymuned Togetherall lle gallwch rannu eich stori yn ddienw, a chael a rhoi cefnogaeth i eraill sy’n deall beth rydych chi’n mynd drwyddo. 

Mae’r gymuned Togetherall yn cael ei rheoli gan weithwyr proffesiynol clinigol 24/7 ac mae mynediad yn syth – does dim rhestrau aros. Gallwch ddysgu mwy am gymuned Togetherall, cliciwch yma.

Register today