Pŵer Cwsg: Pam fod ei Angen arnom a Sut i’w Gael

The Power of Sleep: Why We Need it and How to Get it

Mae a wnelo cwsg â mwy na nifer yr oriau o gwsg rydyn ni’n ei gael bob nos, gall ansawdd y cwsg a gawn effaith sylweddol ar ein hiechyd cyffredinol. 

Faint o gwsg sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd? 

Ar gyfartaledd, mae angen tua wyth awr o gwsg y nos ar oedolion. Fodd bynnag, mae’n bwysig gwrando ar eich corff, felly pan fyddwch chi’n deffro ac yn teimlo eich bod wedi cysgu’n dda, ceisiwch olrhain faint o oriau o gwsg a gawsoch neu cofiwch y drefn yn ystod y nos. Fel hyn gallwch ail-greu beth sy’n gweithio orau i chi.  

Mae a wnelo cwsg â mwy na nifer yr oriau o gwsg rydyn ni’n ei gael bob nos, gall ansawdd y cwsg a gawn effaith sylweddol ar ein hiechyd cyffredinol.  Edrychwch ar wybodaeth o erthygl Togetherall’s – Sleep Talk and Sleep Easier i ddarganfod mwy.  

 

Camau cwsg

Mae cwsg yn digwydd mewn cyfres o gamau cysgu sy’n cael eu hailadrodd. Mae pob cam yn chwarae rhan yn y broses adnewyddu ac yn ein paratoi ar gyfer y diwrnod sydd o’n blaenau. 

Camau cwsg: 

  1. Teimlo’n swrth—rydyn ni’n teimlo’n flinedig ac yn syrthio i gysgu. 
  2. Cwsg adferol dwfn (cwsg dwfn heb freuddwydio) 
  3. Camau effro (cwsg ysgafn heb freuddwydio) 
  4. Camau breuddwydio (cwsg REM) 

Mae pob cylch yn para tua 90 munud ac yn cael eu hailadrodd rhwng pedair a chwe gwaith yn ystod y nos. 

I gael cwsg o ansawdd da, mae’r camau hyn yn cael eu hailadrodd yn ddi-dor. Ond os ydych chi’n teimlo dan straen, yn bryderus neu ddim yn cysgu’n dda, yna efallai y byddwch chi’n deffro ac yn torri ar draws y cylchoedd hyn, sy’n gallu golygu y byddwch wedi blino ac yn teimlo’n flin drannoeth.

Mae angen yr holl gamau cwsg ar ein corff i deimlo ar ein gorau. Mae cwsg dwfn yn adnewyddu’r corff ac yn ein helpu i deimlo’n egnïol drannoeth. Mae hefyd yn rhoi hwb i’n system imiwnedd ac yn hanfodol ar gyfer ein twf a’n datblygiad. Mae cwsg dwfn hefyd yn rhyddhau hormon twf sy’n helpu’r corff i atgyweirio ei hun. 

Mae REM neu gwsg breuddwydio yn adnewyddu ein meddwl. Mae’n caniatáu i’n hymennydd brosesu a dod â’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu yn y dydd at ei gilydd ac yn helpu i gryfhau ein cof. Mae cwsg REM hefyd yn helpu i roi hwb i’n hwyliau drwy adnewyddu negeswyr cemegol ein hymennydd.

 

Effaith enfawr ar iechyd ein cwsg? Golau a sgriniau. 

Mae sgriniau’n cael effaith sylweddol ar ein cwsg gan mai golau yw un o reoleiddwyr mwyaf pwerus cloc mewnol ein corff. Mae ein hymennydd fel arfer yn rhyddhau mwy o felatonin pan fydd hi’n tywyllu, gan wneud i ni deimlo’n flinedig ac yn barod i gysgu, ond gyda setiau teledu, tabledi, gliniaduron, a ffonau symudol, rydyn ni’n cael mwy o olau yn y nos, sydd yn ei dro’n atal y broses o gynhyrchu melatonin, ein gwneud yn llai cysglyd ac yn methu â syrthio i gysgu ar adeg arferol.

Ffactorau eraill sy’n gallu amharu ar ansawdd cwsg: 

  • Digwyddiadau llawn straen yn ystod y dydd 
  • Sefyllfaoedd anodd mewn bywyd, fel colli rhywun annwyl
  • Poeni am ysgol, perthynas, Covid-19, ac ati.
  • Gorbryder, iselder, neu straen ôl-drawmatig
  • Iechyd corfforol gwael neu sgil-effeithiau meddyginiaethau
  • Defnyddio symbylyddion neu arferion ffordd o fyw sy’n gweithio yn erbyn eich cloc mewnol

Sut i wella cwsg

Efallai y byddwn ni’n ceisio ymladd blinder trwy gael cyntun, yfed coffi, ac alcohol, ond mae’r rhain mewn gwirionedd yn amharu ar ein cwsg hyd yn oed yn fwy.

Gall newidiadau i ffordd o fyw neu wella eich ‘hylendid cwsg’ eich helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn ar ôl nosweithiau digwsg neu ddeffro’n teimlo’n flinedig. 

Meddyliwch am y rhwystrau sy’n eich atal rhag cael cwsg o ansawdd da. Amserlen eich astudiaeth? Eich bywyd cymdeithasol? Ffactorau straen dyddiol sy’n eich atal rhag ymlacio? Rhowch gynnig ar rai o’r awgrymiadau hyn i helpu i wella eich cwsg: 

  • Gwnewch amserlen i wneud cwsg yn flaenoriaeth ac i’ch atal rhag aros ar eich traed yn hwyr. Mae gan Togetherall ganllaw gosod nodau i’ch helpu i gadw ar y trywydd iawn. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r adnodd hwn i greu rhestr flaenoriaeth gan roi cwsg ar y brig. 
  • Dylech osgoi amser sgrin pan ydych chi yn y gwely. Mae’r golau glas o’ch dyfeisiau’n blocio melatonin, ac o’r herwydd nid ydym yn teimlo’n flinedig. Rhowch gynnig ar ddefnyddio gliniaduron neu ffonau wrth fwrdd neu ddesg a gwylio’r teledu ar y soffa ac nid yn y gwely. 
  • Torrwch i lawr ar gaffein yn hwyrach yn y dydd. Yn ddelfrydol, peidiwch â chael caffein wyth awr cyn mynd i’r gwely.  
  • Mae nicotin ac alcohol yn symbylyddion sy’n gallu ein hatal rhag teimlo’n flinedig a chysgu. Cadwch hyn mewn cof wrth i chi asesu eich hylendid cwsg.  

Mae cwsg yn hanfodol i’n hiechyd corfforol a meddyliol. Mae angen cwsg iawn arnom i deimlo’n ffres i wynebu’r dydd. Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, mae gan Togetherall gyrsiau ac adnoddau i’ch helpu i ddeall eich perthynas â chwsg yn well er mwyn i chi allu teimlo’n well a delio â phopeth sy’n eich herio mewn bywyd. 

Mae Togetherall yn cynnig cymuned ddiogel ac anhysbys lle gall pobl gysylltu i rannu eu profiadau a chael (neu roi) y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae mynediad i lwyfan Togetherall am ddim ac mae aelodau o’r gymuned yn cael eu cadw’n ddiogel gan weithwyr iechyd meddwl proffesiynol 24/7.

I ddarllen mwy o erthyglau iechyd a lles, ewch i’n tudalen Erthyglau Cymorth.

Register today