Sut gallwn ni ofalu am ein hiechyd meddwl yn ystod cyfnod o straen ariannol?

Yn ystod argyfwng costau byw, gall gweithgareddau o ddydd i ddydd ein llethu a gall eich iechyd meddwl fod yn waeth nag arfer. Mae ein tîm clinigol yn rhannu rhai pethau y gallwch eu gwneud i sicrhau eich bod yn cadw’n iach ac yn cael y cymorth iawn.

Y sefyllfa ar hyn o bryd o ran costau byw

Chwyddiant, biliau ynni, costau’r cartref ar gynnydd – mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb mewn rhyw ffordd ar draws y DU.

Mae hyn wedyn yn effeithio ar ein hiechyd meddwl, yn enwedig i bobl sydd efallai yn ei chael hi’n anodd fforddio diwallu eu hanghenion mwyaf sylfaenol. Yn ôl y Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl, mae dros 1.5 miliwn o bobl yn y DU yn wynebu dyledion problemus a phroblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd.

Mae’r rheini sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y bobl y mae trafferthion ariannol yn effeithio arnynt. Yn ôl Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP), mae dwy ran o dair (66%) o therapyddion yn dweud bod pryderon ynghylch costau byw yn arwain at ddirywiad yn iechyd meddwl pobl.

Gall pryderon ariannol, yn enwedig dyledion tymor hir, neu ddigwyddiadau sy’n newid bywyd fel colli swydd, achosi neu waethygu gorbryder, iselder a straen yn aml. O’r fan hon, mae’n hawdd cael eich dal mewn ‘cylch dieflig’, pan fydd sefyllfa enbyd o straen ariannol yn gallu cynyddu problemau iechyd meddwl, yn ei gwneud yn anoddach rheoli materion ariannol. Mae bron i 40% o bobl â salwch meddwl yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn gwneud eu problemau iechyd meddwl yn waeth.

Yr effaith ddilynol ar eich lles

Mae problemau eilaidd yn gallu codi wrth ddelio â straen ariannol:

  1. Cwsg – Un o’r pethau cyntaf i ddioddef wrth gael problemau ariannol yw eich cwsg. Pan fydd eich meddwl ar ras a chithau’n pryderu am y dyfodol, gall hynny effeithio ar eich gallu i gysgu a chael noson dda o orffwys.
  2. Iechyd corfforol – Gall pryderon ariannol effeithio hefyd ar eich iechyd corfforol. Gall straen dros gyfnod hir, gan gynnwys straen ariannol, achosi poen corfforol a llai o allu i oddef poen, gan gynnwys cur pen, poen yn yr abdomen, a cholli chwant bwyd.
  3. Hunan-barch – Gall teimlo nad ydych chi’n gallu rheoli eich arian yn effeithiol effeithio ar sut rydych chi’n teimlo amdanoch chi eich hun, er enghraifft, teimlo eich bod yn fethiant ac yn annheilwng.
  4. Yfed – Fel ffordd o ymdopi neu ‘ddianc’ rhag straen trafferthion ariannol, gall fod temtasiwn i droi at alcohol. Mae alcohol yn dawelydd, felly dim ond gwaethygu’r broblem a wnaiff a gall hefyd arwain at wario byrbwyll.

Pethau y gallwch eu gwneud pan fyddwch yn poeni am arian

CEISIO HELP LLE GALLWCH CHI

Nid gwasanaeth cymorth ariannol yw Togetherall, ond rydyn ni yma i gefnogi iechyd meddwl ein cymuned, ni waeth beth maen nhw’n ei brofi. Mae ein rhwydwaith dienw o gymheiriaid yma i gynnig geiriau o gysur a chyngor, gydag ymarferwyr cymwys wrth law i sicrhau eich bod yn ddiogel wrth ofyn am gymorth.

Gall llyfrgell helaeth Togetherall o gyrsiau ac adnoddau hefyd eich helpu i reoli eich emosiynau ynghylch straen ariannol os nad ydych chi eisiau siarad ag eraill am eich profiadau.

Mae gennym hefyd lyfrgell rad ac am ddim o erthyglau cymorth sy’n hygyrch p’un a ydych chi wedi cofrestru gyda ni ai peidio, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys cwsg, rheoli straen, neu osod amcanion.  

Os oes angen cyngor ariannol arnoch, siaradwch â’ch banc, eich landlord neu un o’r gwasanaethau isod os ydych chi’n cael trafferth ymdopi’n ariannol.

BLAENORIAETHU EICH IECHYD CORFFOROL A MEDDYLIOL

Byddwch yn garedig â chi eich hun a gwnewch hunanofal yn flaenoriaeth. Hyd yn oed os yw’n golygu cymryd pum munud i fynd am dro a thynnu eich hun o’r sefyllfa dros dro, gall gwneud rhywbeth sy’n mynd i gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd meddwl helpu i dorri’r cylch o negyddiaeth sy’n cael ei achosi gan bryderon ariannol.

Nodwch ble mae gennych chi reolaeth o hyd. Gall dyled ac ansicrwydd wneud i ni deimlo allan o reolaeth, felly gall cynnal trefn iach helpu i roi gwell persbectif i ni. Rydyn ni’n deall bod meddyliau pryderus neu iselder sy’n gysylltiedig â straen ariannol yn gallu ei gwneud hi’n anodd cynnal patrwm byw, felly dechreuwch yn fach drwy feithrin arferion iach ac osgoi’r hyn sy’n sbarduno dulliau ymdopi afiach a gwario byrbwyll.

I gael rhagor o gymorth

Mae rhagor o adnoddau cymorth ariannol ar gael isod.

MONEYHELPER

Mae MoneyHelper yn dod â chymorth a gwasanaethau tri darparwr sy’n cynnig arweiniad ariannol, a gefnogir gan y llywodraeth, at ei gilydd: y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau a Pension Wise, i ddarparu offer defnyddiol a chyngor diduedd am eich sefyllfa ariannol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

DEBTLINE

Elusen yw National Debtline sy’n darparu cyngor arbenigol, annibynnol ac am ddim ar ddyledion i bobl ledled y DU. Gallwch gysylltu â National Debtline dros y ffôn, drwy sgwrsio ar y we, neu gael cyngor drwy’r wefan. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys eu hwb costau byw, ar gael yma.

CYNGOR AR BOPETH

Gall pob un ohonom wynebu problemau sy’n ymddangos yn gymhleth neu’n frawychus. Mae Cyngor ar Bopeth yn credu na ddylai neb orfod wynebu’r problemau hyn heb gyngor annibynnol o ansawdd da. Mae rhagor o wybodaeth a help ar gael ar eu gwefan.

MIND

Mae gan Mind, yr elusen iechyd meddwl, lyfrgell o adnoddau am ddim i helpu pobl sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl. Maen nhw hefyd wedi creu adnodd penodol i’ch helpu i reoli eich arian a’ch iechyd meddwl, sydd ar gael yma.

Ymunwch â Togetherall heddiw

Mae Togetherall yma i gefnogi eich iechyd meddwl os ydych chi’n poeni am eich sefyllfa ariannol – efallai y gwelwch fod llawer o bobl yn ein cymuned wedi bod lle rydych chi nawr. Os yw eich sefydliad, eich cyflogwr neu ddarparwr gofal iechyd lleol wedi rhoi mynediad i chi at Togetherall, cofrestrwch isod.

Join Togetherall today

Togetherall is here to support your mental health if you’re worried about your finances – you might find that many people in our community have been where you are now. If your institution, employer, or local healthcare provider has provided you with Togetherall access, sign up below.

Register today