Beth yw Niwroamrywiaeth?

Rydym i gyd yn profi ac yn rhyngweithio gyda’r byd mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i ni. Mae niwroamrywiaeth yn pwysleisio’r syniad nad oes un ffordd gywir o ddysgu, o ymddwyn neu deimlo.

Rydym i gyd yn profi ac yn rhyngweithio gyda’r byd mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i ni.  Mae niwroamrywiaeth yn pwysleisio’r syniad nad oes un ffordd gywir o ddysgu, o ymddwyn neu deimlo. Defnyddir niwroamrywiaeth fel ffordd o ddisgrifio’r gwahanol ffyrdd y mae’r ymennydd dynol yn gweithio oherwydd nid oes un diffiniad o ‘normal’ wrth ystyried yr ymennydd.

Yn nodweddiadol, defnyddiwyd niwroamrywiaeth i ddisgrifio anhwylder sbectrwm awtistiaeth, yn ogystal ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) neu anableddau dysgu. Ond gall niwroamrywiaeth gynnwys anhwylderau meddygol, anableddau dysgu a chyflyrau eraill. Mae niwroamrywiaeth yn cynnwys llawer o gryfderau, er enghraifft gallu i ddatrys problemau, canolbwyntio ar dasgau cymhleth ac adnabod patrymau.  Mae rhai unigolion niwrowahanol yn profi anawsterau am nad yw’r prosesau a’r systemau sydd ar waith yn eu galluogi i ddangos rhai o’r cryfderau hyn. 

Yn ôl y cymdeithasegydd Judy Singer, a fathodd y term niwroamrywiaeth yn y 1990au, mae niwroamrywiaeth, “yn cyfeirio at y ffaith bod gan bob bod dynol system nerfol unigryw gyda chyfuniad unigryw o alluoedd ac anghenion.” 

Mae cyflyrau niwroamrywiaeth yn dueddol o fod yn anweladwy, felly gallai unigolion niwrowahanol deimlo profiad mewnol o fod yn wahanol yn y byd neu deimlo ar eu pen eu hunain gyda’u hanawsterau.

 

Pa gyflyrau sy’n cael eu hystyried yn rhai niwrowahanol?

Gall niwroamrywiaeth gynnwys anhwylder sbectrwm awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, dyslecsia a mwy.  Mae’n bosibl na fydd unigolion a allai fod â rhai o’r cyflyrau hyn yn adnabod eu hunain fel niwrowahanol, gan bwysleisio y gall pob unigolyn adnabod eu hunain fel y dymunant, mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr iddyn nhw.

Mae Ben Locke, Ph.D., Prif Swyddog Clinigol Togetherall yn annog y defnydd o fodel sy’n seiliedig ar gryfderau wrth drafod niwroamrywiaeth.

 

“Gall fod yn hawdd i bobl deimlo eu bod yn cael eu gadael allan neu eu bod yn wahanol pan fyddant yn prosesu’r byd yn wahanol i eraill. Weithiau nid yw’n ymwneud â chael profiad niwrowahanol yn unig ond effeithiau crychdonni’r profiad hwnnw ar draws gweddill eich bywyd. Ond mae’r weithred o rannu eich profiadau byw a chysylltu ag eraill yn galluogi unigolion i brofi dilysiad a normaleiddio, adnabod eu cryfderau, deall cryfderau eraill, a chreu ymdeimlad o berthyn a derbyniad ar draws profiadau amrywiol.”

 

Sut i ymchwilio ymhellach i niwroamrywiaeth

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn credu y gallent fod yn niwrowahanol, mae yna adnoddau ar gael i’ch helpu i gael rhagor o wybodaeth a’r camau nesaf.  Gallwch siarad â’ch darparwr gofal iechyd a all eich hatgyfeirio at weithiwr proffesiynol a fydd yn gallu helpu drwy ddarparu rhagor o wybodaeth mewn ffordd sy’n gweithio i chi.

Gallech chi neu rywun rydych yn ei adnabod gysylltu ag eraill mewn gofod diogel i geisio rhagor o wybodaeth a theimlo cysylltiad ag eraill a allai fod yn profi pethau tebyg.

Yn Togetherall, mae’r aelodau’n ddienw, ac mae’r platfform yn cael ei fonitro 24/7 gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl, sy’n caniatáu diogelwch, gofod i fod yn agored a lle i gysylltu ag eraill sy’n gweithio i bob unigolyn a’r ffordd y maen nhw’n gweld y byd.  

Yn fyd-eang, mae gan 20+ miliwn o bobl fynediad at Togetherall, gan greu cymuned fawr, amrywiol a gweithredol.  Gall aelodau ddod o hyd i gyfoedion â phrofiadau byw cyffredin yn gyflym a chyfleus, a all roi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw yn ogystal â sgiliau a strategaethau ymdopi.  

Os ydych yn adnabod eich hun fel niwrowahanol, neu’n adnabod rhywun sy’n niwrowahanol, mae cymuned ar-lein ddienw Togetherall yn ofod diogel lle gallwch rannu eich profiadau, holi cwestiynau, cael cyngor a rhoi cysur i eraill.  Nid oes rhaid i chi deimlo ar eich pen eich hun yn eich profiadau.  

 

Sut i gofrestru a chymryd rhan yng nghymuned Togetherall

Ymunwch â Togetherall; cymuned cymorth cyfoedion diogel, ar-lein a dienw

Beth i’w ddisgwyl

  • Mae Togetherall yn gymuned cymorth cyfoedion diogel sy’n cael ei monitro 24/7 gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl.
  • Yn debyg i rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, gall aelodau bostio am eu profiadau mewn ffrwd, ond yn wahanol i gyfryngau cymdeithasol, mae Togetherall yn ddienw ac yn cael ei fonitro 24/7 gan weithwyr proffesiynol iechyd meddwl i gadw’r gymuned yn ddiogel a chynhwysol.

Sut i gofrestru

  • Cofrestru ar togetherall.com gyda’ch gofynion mynediad penodol chi (naill ai eich cod post, sefydliad, neu gyfeiriad e-bost academaidd).
  • Gweithredu eich cyfrif drwy eich e-bost
  • Ateb rhai cwestiynau amdanoch eich hun
  • Creu enw defnyddiwr a chyfrinair dienw
  • Mewngofnodi a dechrau cysylltu ag eraill

 Sut i gymryd rhan mewn cymuned

  • Mewngofnodi yn togetherall.com 
  • Sgrolio’r hafan i ddarllen postiadau eraill
  • Clicio ar Community i ymuno â Grŵp yn seiliedig ar y pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo
  • Cliciwch Courses i ddilyn cwrs hunangymorth neu i ddarllen erthyglau o dan Resources
  • Dechrau cysylltu ag eraill drwy rannu eich profiadau’n ddienw drwy glicio “create post” ar yr hafan

Mae pobl yn meddwl yn wahanol, sy’n golygu y gallwn ddefnyddio gwahanol ffyrdd i deimlo’n well.  Gyda Togetherall, gall aelodau rannu eu profiadau a rhannu cymuned.

Mae Togetherall yn lle diogel i bobl helpu pobl.  Cofrestrwch ar gyfer y gymuned cyfoedion ar-lein ddienw heddiw gyda’ch paramedrau mynediad chi.

Register today