A ydym ni i gyd braidd yn unig? Sut i reoli teimladau o fod yn unig ac ynysig
June 05 2022
A ydym ni’n unig ynteu a yw’n ymddangos fel bod pawb arall yn cael mwy o hwyl?
Oherwydd y ffordd mae cyfryngau cymdeithasol wedi’u dylunio, mi wyddom hefyd pa mor anodd yw hi i osgoi cymharu ein hunain ag eraill ar gyfryngau cymdeithasol, a bod y profiad hwnnw’n dwysau teimladau o unigrwydd. Nid yw o bwys beth ydym ni’n ei wneud ar gyfryngau cymdeithasol, mi all cael ein hamlygu i’r cynnwys ar y platfform gyfrannu at deimlad o unigrwydd.
Nid ydym yn awgrymu na ddylech byth fynd ar gyfryngau cymdeithasol eto, ond mae’n bwysig gwybod bod gwneud hynny’n gallu achosi i’n teimladau a’n hymddygiadau gael eu cipio heb inni sylweddoli hynny.
Mae Prif Swyddog Clinigol Togetherall, Dr. Ben Locke, Ph.D. am inni wybod bod
“unigrwydd yn deimlad gwirioneddol, waeth beth sydd wedi’i achosi, ond mae sawl ffordd o’i reoli.”
Rydym yn greaduriaid cymdeithasol ond hefyd yn greaduriaid sy’n glynu wrth arferion. Gall cyfuno hynny ag offer digidol ein rhoi ar awtobeilot, ac mi all hynny wneud ein teimladau’n waeth heb inni sylweddoli hynny.
Sut mae dod oddi ar awtobeilot? Mae Dr. Locke, Ph.D. yn pwysleisio nad yw hynny’n hawdd bob amser, ond mae’n werth rhoi cynnig arni, a pho fwyaf yr ydych yn ei wneud, y gorau fydd hynny i chi.
“Pennu bwriadau yw un o’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael ag unigrwydd. Cam cyffredin pan fyddwn yn teimlo’n unig neu wedi diflasu (neu hyd yn oed yn anghyfforddus) yw codi ein ffôn a dechrau sgrolio. Y broblem yw nid yn unig y mae’r ymddygiad awtomatig hwn yn cadarnhau ein profiad unig ond mae’r hyn rydych yn ei weld yn awgrymu nad oes neb arall yn unig a’u bod i gyd yn cael mwy o hwyl na chi. I deimlo’n llai unig neu ynysig, rhaid inni herio ein hunain i beidio â gwneud y peth hawdd ac awtomatig. Dylem, yn hytrach, bennu bwriad i gysylltu ag eraill neu wneud rhywbeth sy’n gwneud inni deimlo’n well.”
Mae pobl yn cael eu denu at gyfryngau cymdeithasol oherwydd gwybodaeth newydd a newydd-deb. Gall hyn wneud inni deimlo’n unig ac ynysig, mae ganddo hefyd y gallu i wneud y gwrthwyneb os ydych yn fwriadol ynglŷn â pha wasanaethau rydych yn eu defnyddio.
I deimlo eich bod mewn cysylltiad a’ch bod yn cael eich helpu gan eraill, a oes yn rhaid inni wybod pwy sy’n rhoi’r help hwnnw inni?
Mae ymchwil wedi dangos bod nifer fwy o gysylltiadau gwannach (pobl yr ydych yn cael sgyrsiau achlysurol â hwy ond heb eu hystyried fel ffrindiau), yn gwneud i bobl deimlo’n fwy hapus gyda llai o deimladau isel. Felly, i gael bywyd hapus a bodlon, nid oes yn rhaid iddo gael ei lenwi â ffrindiau pennaf a chysylltiadau clos iawn.
Weithiau gall deimlo’n haws agor eich calon i rywun nad ydynt yn arbennig o agos atoch. Er y gall ein ffrindiau agos a’n teulu wybod am fanylion mwyaf personol ein bywydau, nid yw hynny’n golygu ein bod eisiau iddynt wybod bob amser am ein problemau mwyaf anodd a phersonol, Weithiau’r unig beth rydym ei eisiau yw rhywun i wrando arnom. Dim mwy.
Os ydych yn canfod ein hunain yn delio â sefyllfa neu emosiynau anodd, mae’n well gennym fel arfer siarad â rhywun sydd wedi profi rhywbeth tebyg. Mae hyn yn gwneud inni deimlo bod gennym brofiad sy’n gyffredin ac y bydd hyn yn arwain at well dealltwriaeth. Hefyd, mae weithiau’n haws rhannu manylion anodd â phobl nad ydynt yn ffrindiau agos neu aelod o’r teulu.
Teimlo’n well hyd yn oed os ydym yn teimlo’n unig
Gan fod y blynyddoedd diwethaf wedi dod â nifer o heriau corfforol, meddyliol ac emosiynol yn eu sgil i’r byd, mae’n hawdd deall sut y mae teimladau o fod yn unig ac ynysig wedi atal pobl rhag teimlo’n dda.
Sut allwn ni deimlo’n well os, a phryd y byddwn yn teimlo’n unig?
Gall sylweddoli pa bryd rydym yn dechrau teimlo’n unig fod yn gam mawr i’n helpu i deimlo mewn mwy o gysylltiad.
- Pennu bwriad bob dydd i deimlo’n well. Os ydych sylweddoli eich bod yn teimlo’n unig, ceisiwch bennu bwriad i leihau eich amser ar sgrin neu roi’r gorau i ddefnyddio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol sy’n eich gwahodd i gymharu eich hun ag eraill. Gall strategaethau syml fel gosod cyfyngiad amser, trefnu eich amser cyfryngau cymdeithasol am y diwrnod, neu atgoffa eich hun bob dydd o’r cysylltiad rhwng cyfryngau cymdeithasol a llesiant fod yn syndod o effeithiol.
2. Ymgysylltu â chysylltiadau llai agos, sef pobl nad ydynt o reidrwydd yn ffrindiau agos neu aelod o’ch teulu. Ni all pawb roi pob math o help sydd ei angen arnom, felly gall ehangu eich rhwydwaith cymorth eich helpu i deimlo bod rhywun yn eich deall a rhoi ymdeimlad o berthyn i chi. Gadewch i’ch hun agor ac ymgysylltu ag amrywiaeth ehangach o bobl a phrofiadau.
- Cysylltu ag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg, hyd yn oed os nad ydych yn eu hadnabod, gall yr ymdeimlad o gefnogaeth ac empathi wneud inni deimlo ein bod yn rhan o gymuned sy’n deall.
Os byddwch yn teimlo bod angen i chi ehangu eich rhwydwaith a chael ymdeimlad o berthyn, rhowch gynnig ar gymuned iechyd meddwl ar-lein am ddim a dienw Togetherall— cymuned iechyd meddwl ar-lein am ddim, ddienw, sy’n cael ei monitro 24/7 gan glinigwyr hyfforddedig. Pan fyddwn yn profi teimladau anodd, gall siarad â phobl eraill sydd wedi profi sefyllfaoedd tebyg helpu. Mi allwch gael help a rhoi help i eraill unrhyw bryd o unrhyw le.